Amdanom...
Ymgynghorwyr marchnata ac ysgrifennu copi dwyieithog yng Nghymru yw Camfa. Oherwydd ein lleoliad yn Sir Gaerfyrddin sydd â'r boblogaeth uchaf o siaradwyr Cymraeg, mae gennom lawer o brofiad o weithio yn ddwyieithog.
Sefydlwyd Camfa yn 2004, ar ôl sawl blwyddyn yn y sectorau gwirfoddol a phreifat gyda mudiadau a busnesau bach oedd yn frwd i lwyddo ond a welodd marchnata fel cost na allant fforddio a nad oedd angen arnynt.
...Camfa ar gyfer Marchnata
Credwn taw ymdrech flaengar ac hanfodol yw marchnata. Mae marchnata yn cyfrannu at y linell uchaf ac yn fuddsoddiad y mae'n rhaid i bob busnes a mudiad ei wneud i sicrhau llwyddiant. Ar ein tudalen marchnata, rydym wedi rhestri rhai syniadau sylfaenol ar gyfer marchnata a fydd yn cynorthwyo'r rhan fwyaf o fusnesau a mudiadau i ymdopi â'r weithred hanfodol hon.
...Camfa ar gyfer Ysgrifennu Copi
Mae ein harbenigedd marchnata wedi tyfu o'n cariad hir-oes at eiriau, yn nwy iaith Cymru, yn ogystal â sawl iaith arall ledled y byd. Rydym yn dda iawn yn ysgrifennu - am gyfathrebu syniadau ar bapur neu ar lafar - dyna elfen cryfaf pobb ymgyrch marchnata. Rydym hefyd yn dda am olygu a phroflennu - mae gwefan orau'r byd yn methu os oes gwallau sillafu a gramadeg. Gallwch ddarllen mwy am ysgrifennu copi ar gyfer argraffu a'r rhyngrwyd ar y dudalen ysgrifennu.
... Camfa ar gyfer e-Fusnes
Credwch neu beidio, ni all busnes o unrhyw faint anwybyddu e-fusnes. Mae'r ymgyrch tuag at e-fusnes 100% i Gymru erbyn hyn yn ddidroinôl ond nid oes rhaid iddo fod yn boenus. Ers teipiadur electronig pêl golff IBM, fe'n swynwyd gan dechnolog. Rydym yn dwlu ar dechnoleg a'r Rhyngrwyd. Rydym yn deall sut y gellir defnyddio technoleg ar gyfer tyfiant a ffyniant hyd yn oed yn y busnes lleiaf.
Mae Camfa yn credu mewn gwella cyfleoedd i fusnesau a mudiadau. Rydym eisiau gweithio gyda chi i helpu'ch busnes i lwyddo. Ein dymuniad ni yw i fod y cwmni marchnata cyntaf y trowch ato ar gyfer anghenion eich busnes. Anelwn at fod y cwmni gorau i weithio gyda ac iddo.
Mae ein Cleientau'n Dweud...
Bydd ysgrifennu a marchnata da yn helpu eich busnes i gystadlu.
Safonau Ymarfer Camfa :
Rydym yn credu mewn:
- cyfrifoldeb personol
- trin eraill fel y disgwyliwn i eraill ein trin ni
- gonestrwydd
- cywirdeb
- cyfiawnder
Mae Camfa yn credu yn ngwella cyfleoedd i fusnesau a mudiadau. Rydym eisiau gweithio gyda chi i helpu'ch busnes i lwyddo. Ein dymuniad ni yw i fod y cwmni marchnata cyntaf y trowch ato ar gyfer eich anghenion busnes. Anelwn at fod y cwmni gorau i weithio gyda ac iddo.
Polisi Preifatrwydd
Na fydd Camfa neu unrhyw o'i bartneriaid yn rhannu, benthyg neu werthu eich manylion i unrhyw gwmni neu berson arall.
Mae ein gwasanaethau craidd yn cynnwys :