Digwyddiadau Cleient ar y gweill...
Cyfathrebu
Mae Dyddiol Cyf. ar fin cyhoeddi'r papur dyddiol Cymraeg cenedlaethol cyntaf erioed, Y BYD. Bydd y papur newydd yn cyrraedd y siopau ym mis Mawrth 2008. Gallwch ymuno â'r Clwb Cefnogwyr ar wefan Camfa.
Yn ôl rhifyn diweddaraf Cambria Magazine, mae golygydd degwad cyntaf y cylchgrawn, Henry Jones-Davies, yn ymddeol. Gallwch danysgrifio i'r cylchgrawn trwy wefan Camfa: Taith Mai Gogledd America. Ac mae llyfr coginio Dorothy Davies, A Flavour of Wales, newydd ei gyhoeddi.
Iechyd
Mae Anne Tovey, Therapydd Corff a Iechyd yn cynnal gweithdai Tai Chi Chigong yn Abertawe, Porth Tywyn a Phenbre, ger Caerfyrddin, yn wythnosol. Cost y gweithdai yw £35 (£3.50 y dosbarth). Am fwy o wybodaeth, ffoniwch: 01554 833953.
Gwasanaethau i Fusnes
Mae Storage Solutions (Wales) Ltd. wedi dechrau gwasanaeth newydd ar gyfer busnesau sydd angen gofod archif. Mae'r archifau yn addas ar gyfer pob math o ddogfennau a ffeiliau sydd ddim eu hangen yn rheolaidd.
Un gwasanaeth newydd gan Morgan Walsh (MWC) yw cefnogaeth technoleg gwybodaeth ar gyfer busnesau gydag adran TG fach. Gall Morgan Walsh gynnig system mentora i'ch staff er mwyn eu cefnogi a'u cynnal - Morgan Walsh yw'r dwylo ychwanegol diogel anghenrheidiol ar gyfer busnesau bach a chanoledig. Mewn cydweithrediad â Landsker Business Centre a Chyngor Sir Benfro, bydd MWC yn cynnig gweithdai ynghylch cyfrifiadureg a systemau. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Morgan Walsh, neu y canolfan busnes Landsker: 01994 240631
Diwydiannau Creadigol
Bydd Janet Bristoll, arlunydd o Groeslan, yn arddangos ei gwaith mewn sawl oriel yng Nghymru dros y misoedd nesaf. Cynhaliwyd arddangosfa o waith Janet wedi yn Aberteifi yn ddiweddar. Gwelir enghreifftiau o'i gwaith yn Oriel Sargaso ac mae sawl un o'i lluniau mewn casgliadau preifat.
Aeth y Cyfarwyddydd Creadigol Camfa, Leigh Verrill-Rhys, i'r Unol Daleithiau yn ystod mis Mai i hyrwyddo gwaith sawl un o'n cleientau. Yn eu mysg oedd Seren Mair, sy'n cynhyrchu Doliau Treftadaeth Danycoed. Gwelir enghreifftiau o'r doliau ar y dudalen Taith Mai Gogledd America.
Bydd td'r' yn cyhoeddi llyfr ar gyfer myfyrwyr piano i ddysgu graddfeydd mewn ffordd wahanol. Hefyd, ar wefan td'r', mae cerddoriaeth gan Dr. Joseph Parry yn ogystal â chyfansoddwyr eraill o Gymru.
Gwneuthwyr
Mae gwefan newydd gan Armour Engineering. Mae'r gwneuthwyr yn cynhyrchu eitemau i gadw ceir, eiddo, beiciau modur a charafannu yn ddiogel.
Elusennol
Un o gyfarwyddwyr newydd Sefydliad Cenedlaethol Cymru America (SCCA) yw Ken Howells, brodor o ardal Maesteg, sydd bellach yn byw yn Canada. Ken yw'r cyfarwyddwr cyntaf o Ganada ar Fwrdd y mudiad yn yr Unol Daleithiau. Paul Loveluck (Amgueddfeydd Cymru) yw cadeirydd y Bwrdd yng Nghymru.
Dyma rai o'r busnesau a mudiadau y mae Camfa yn eu helpu i dyfu, i ddechrau neu i symud. Gadewch i ni eich helpu chi.
Mae ein gwasanaethau craidd yn cynnwys :
- Cyfathrebiadau Ysgrifenedig: Copi
- Marchnata: Strategaeth a Gweithrediad Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau
- E-Fusnes: Marchnata Arlein, Copi a Chynnwys y We

Bydd ysgrifennu a marchnata da yn helpu eich busnes i ymestyn y gorwelion.
