Camfa: copi a marchnata Copi a Marchnata ar gyfer Busnes

camfa, eb. sticil, sticill. Lle i groesi wal.

Erthyglau a Digwyddiadau

Marchnata dwyieithog darllen mwy ...

Digwyddiadau cleient ar y gweill darganfod mwy ...

Gwobr Datblygu Proffesiynol mewn e-Farchnatalogo CIMlogo ITWales

E-fusnes...

E-farchnata: Copi Gwe, Cynnwys a Dylunio

I sawl un ohonoch, nid technoleg yw eich hoff bwnc - rydym wedi clywed hynny gennych yn aml. Mae clywed y llythrennau T a G gyda'i gilydd yn achosi poen a chwyn. Felly, ni fyddwn yn eich diflasu gyda manylion neu'n codi ofn arnoch gyda gwyddoniaeth.

Gall eich busnes elwa'n fawr oddi wrth e-fusnes - dim ond i chi gyfarch y chwyldro electronig gyda'r un synnwyr cyffredin â rheoli'ch llif arian. Fuasech chi ddim yn rhoi allwedd eich swyddfa neu siop i ddieithryn n rhoi rhif côd eich cyfrif busnes i unrhyw un er eu bod wedi eich dallu gyda geiriau technegol. Pam ddylech chi drosglwyddo un o'ch asedion mwyaf gwerthfawr i bobl fel hyn?

E-fusnes am byth...

Mae e-fusnes yma am byth a gall Camfa eich cynorthwyo i ymdopi. Nid ydym yn defnyddio anagramau, côd neu jargon. Rydym yn gwneud e-fusnes i weithio er eich lles, boed yn system post electronig neu siop electronig diogel ar y Rhyngrwyd.

Mae Camfa yn darparu marchnata electronig sydd yn ddefnyddiol, yn hawdd i bawb, yn gyfeillgar, ac yn weladwy sy'n golygu nad oes rhaid i chi boeni - bydd eich e-fusnes yn gweithio er lles eich busnes. Gynted yr ydym wedi llwyddo i wneud hyn yn iawn i chi, mae'n gweithio i ni hefyd.

Ein gwasanaeth e-farchnata...

Byddwn yn:

Mae Camfa yn darparu marchnata electronig sydd yn ddefnyddiol, hawdd i bawb, cyfeillgar, a gweladwy sy'n golygu nid oes rhaid i chi boenu - bydd eich e-fusnes yn gweithio er mwyn eich busnes. Un waith rydym wedi llwyddo gwneud hyn yn iawn i chi, mae'n gweithio i ni, hefyd.

Pwy fydd biau'ch gwefan?

Chi sydd biau'ch busnes ac mae hynny yn cynnwys eich gwefan. Ni fyddwn yn ymyrryd gyda'ch eiddo. Chi fydd yn rheoli eich gwefan a'r enw parth, eich copi a chynnwys, eich adroddiadau a'ch gwybodaeth. Os dymunwch, byddwn yn darparu'r cyfrineiriau sydd eu hangen arnoch i reoli a datblygu'ch gwefan hebddom.

Ffoto gan L V Rhys, CamfaBydd ysgrifennu a marchnata da yn helpu eich busnes i dynnu sylw.

 

Mae ein gwasanaethau craidd yn cynnwys :

logo Camfa Map Gwefan | Polisi Preifatrwydd | Cysylltwch â Ni | ©2007 Camfa Cyf/Ltd | +44(0)1267 232338