Marchnata Dwyieithog
Yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2001, mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn cynyddu bob blwyddyn ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn annog busnesau i ymateb:
Y realiti yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i ddatblygu mewn ymateb i ddymuniadau a disgwyliadau cwsmeriaid. Bydd swyddi ar gael ar bob lefel lle mae'r gallu i weithio'n ddwyieithog yn ddymunol, os nad yn angenrheidiol.
Mae dros 24% o'r boblogaeth yng Nghymru wedi datgan eu bod yn gallu deall y Gymraeg. Mae mwyafrif o boblogaeth Cymru o blaid cefnogi'r iaith Gymraeg fel rhan bwysig o hanes a diwylliant cyfoes Cymru (Llywodraeth y Cynulliad). Mae 37% o bobl sy'n darllen y Gymraeg wedi ymateb yn bositif i bapur newydd dyddiol yn yr iaith. (Ymchwil Dyddiol Cyf. ar gyfer y papur dyddiol, Y BYD.)
Gydag ystadegau fel hyn, synnwyr cyffredin yw marchnata dwyieithog yng Nghymru.
Ond pan mae cyn lleied o fusnesau yn manteisio ar y cyfle amlwg hwn?
Un rheswm yw eu bont yn anymwybodol o'r cyfle. Rhesymau eraill y mae busnesau yn eu cynnig yw:
- mae marchnata dwyieithog yn ddrud
Gyda phrisiau argraffu yn disgyn yn gyson, mae cost dwyieithrwydd yn rhesymol erbyn hyn, yn arbennig os ydych yn ystyried y gall marchnata dwyieithog gynyddu eich gwerthiannau gan 25% (profiad cwmni Glengettie pan ddewiwyd i ddefnyddio'r Gymraeg ar eu pecynnau te).
- does dim gwahanaeth i'r cwsmeriaid
Mae Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin wedi dweud bod ymwelwyr wrth eu bodd yn gweld arwyddion a bwydlenni dwyieithog, a chlywed staff yn siarad Cymraeg.
- nid oes galwad am y gwasanaeth gan gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith
Mae siaradwyr Cymraeg yn hapusach i siopa a defnyddio gwasanaethau cwmni sy'n ddwyieithog. Mae siaradwyr Cymraeg yn hapusach i brynu oddi wrth fusnesau sy'n parchu'r iaith. Hefyd, mae'r nifer o bobl sy'n medru siarad yr iaith yn cynyddu bob blwyddyn.
- nid ydynt yn siaradwyr Cymraeg eu hunain
Gyda chymaint o gyfleoedd o blaid defnyddio'r Gymraeg fel rhan o'ch marchnata, does dim rhaid poeni am hyn. Agwedd sy'n bwysig nid gallu. Os ydych yn ystyried beth ddigwyddodd i Thomas Cook yng Nghymru ym mis Mehefin 2007 o gymharu â phrofiad Glengettie, a allwch fforddio peidio marchnata yn ddwyieithog?
Hefyd, mae cyfleoedd di-rif i ddysgu'r pethau bach sylfaenol i groesawu'ch cwsmeriaid - mae Cymraeg sylfaenol yn hawdd i'w ddysgu. Ewch amdani.
Leigh Verrill-Rhys | 26 Mehefin 2007 | Eich Sylwadau | Awst: Log Blog

Bydd ysgrifennu a marchnata da yn helpu eich busnes i barhau.
Mae ein gwasanaethau craidd yn cynnwys :