Camfa: copi a marchnataCopi a Marchnata ar gyfer Busness

camfa, eb. sticil, sticill. Lle i groesi wal.

Erthyglau a Digwyddiadau

Marchnata dwyieithog darllen mwy ...

Digwyddiadau Cleient ar y gweill darganfod mwy ...

logo CIM

Marchnata...

Marchnata: Strategaeth Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Mae marchnata eich busnes yn golygu mwy na miloedd o feiros plastig a logo ar fatiau cwrw. Fel mae Peter Drucker yn dweud wrthym, pwrpas busnes yw "i greu cwsmer". (The Practice of Management, 1995) os does neb yn gwybod eich bod yno, sut gall neb eich darganfod?

Cyfathrebu yw marchnata mae cyfathrebu yn stryd ddwy ffordd. Meddyliwch amdano fel hyn: mae marchnata ar gyfer eich cwsmeriaid - i'w helpu nhw i wybod am eich busnes ac ymddiried ynddoch ddigon er mwyn iddynt eich talu am eich gwasanaeth neu'ch cynnyrch.

Gweler fwy o wybodaeth am farchnata isod.

Gwybodaeth ac Ymddiriedolaeth

Mae gwybodaeth am eich busnes yn dechrau gyda delwedd: sut mae eich busnes yn edrych?

Mae ymddiriedaeth yn dechrau gyda thystiolaeth: beth mae eich busnes yn gwneud ac yn dweud?

Mae'r ddau yn ymwneud ag enw da eich busnes. Ai yw eich busnes yn weledig? Ai yw eich busnes yn gwneud yr hyn mae'n ei ddatgan?

Gwasanaethau Marchnata Camfa

Mae Camfa yn darparu cynllunio a rheoli strategaethau marchnata ac ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd:

Mae Camfa yn gweithio gyda thîm dethol o bartneriaid creadigol sy'n cydweithio â ni i ddarparu i'n cleientau y marchnata sy'n angenrheidiol i'w busnesau lwyddo. Mae gweithio fel tîm yn golygu y bydd eich busnes yn derbyn cefnogaeth a chyngor marchnata, dylunio, technolegol a chyfathrebu gorau mae Camfa wedi llwyddo i'w ddarganfod yng Nghymru a thu hwnt.

Meddyliwch am Camfa fel eich partner busnes ar gyfer eich holl anghenion marchnata, o lythyron gwerthu drwy'r post i fod yn weledig ar y Rhyngrwyd, a phopeth arall yn y canol.

Ffoto aber y Taf a'r Tywi gan L V Rhys, Camfa

Bydd ysgrifennu da a marchnata da yn helpu eich busnes i ddisgleirio.

 

A yw eich busnes yn cael y gorau o'i gyllideb marchnata?

Synnwyr cyffredin yw marchnata. Gall ychydig mwy o synnwyr cyffredin olygu marchnata gwell.

Mae llawer ohonom o dan yr argraff bod marchnata yn weithred y mae'r busnes yn gwneud dros ei hun. Mewn gwirionedd, ar gyfer ein cwsmeriaid mae marchnata. Ar gyfer ein cwsmeriaid y mae pob cyfathrebiad o'n heiddo: o'n gwefannau i'n dyfeisiau hyrwyddo, oherwydd yr ydym yn dymuno iddynt ein caru.

Mae Camfa yn edrych ar bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol: rydym yn caru ein cleientau felly, ein dymuniad ni yw bod eu cwsmeriaid yn eu caru hefyd. Mae caru eich cwsmeriaid yn ffordd wych o sicrhau eich bod yn gwneud eich gorau drostynt. O'r gorau, weithiau mae hyn yn methu ac rydym yn cael ein cosbi, ond mae gwobrau'n fendigedig pan rydym yn ennill.

Ac wrth i ni fod yn yr hwyl gariadus hon, peidiwch ag anghofio eich staff wrth y ddesg flaen - pa mor dda ydym gyda'n 'croeso'? Mae ymadrodd Tseiniaidd hyfryd sy'n dweud "Os nad oes gennych wên, peidiwch ag agor siop." Os ydyn ni neu ein staff yn anhapus, a allwn gynnig croeso yn unrhyw le i unrhyw un?

Un peth arall i feddwl amdano: mae Camfa yn edrych ar eich busnes o bob cyfeiriad - golwg 360° - ac mae hynny'n cynnwys eich darparwyr. Mae perthynas dda gyda'ch partneriaid darparu yn gallu gwneud gwahaniaeth i'r lefel y mae eich cwsmeriaid yn ymddiried ynddoch - eich enw da.

Amddiffynwch eich enw da ac adeiladwch arno.

Darllenwch erthygl Leigh a mynegwch eich barn.

Mae ein gwasanaethau craidd yn cynnwys :

logo Camfa Map Gwefan | Polisi Preifatrwydd | Cysylltwch â Ni | ©2007 Camfa Cyf/Ltd | +44(0)1267 232338