Camfa: copi a marchnataCopi a Marchnata ar gyfer Busnes

camfa, eb. sticil, sticill. Lle i groesi wal.

Erthyglau a Digwyddiadau

Marchnata dwyieithog darllen mwy ...

Digwyddiadau Cleient ar y gweill darganfod mwy ...

logo Academi GymreigMae Leigh Verrill-Rhys, Cyfarwyddydd Creadigol Camfa, yn aelod o'r Academi Gymreig

 

Ysgrifennu Copi...

Cyfathrebiadau Ysgrifenedig: Copi

Gellir adrodd hanes eich stori mewn sawl ffordd. Fel rheol, adroddir y stori honno mewn geiriau. Dydy marchnata ddim yn digwydd heb eiriau - er prydferthed y ffotograffau, gair neu ddau sy'n dweud wrth eich cwsmer beth yw ystyr y ffotograff. Meddyliwch am hysbyseb mewn unrhyw gyfrwng ac fe feddyliwch amdano mewn geiriau.

A beth am wefannau? Ar y dechrau, geiriau yn unig oedd y rhyngrwyd byd eang, gyda bron dim delweddau. Datblygwyd 'ieithoedd' newydd i wneud delweddau'n bosib ar y We. Am gyfnod byr, roedd dylunwyr gwefannau wrth eu bodd gan chwildroi mewn gorfoledd. Mae'r Rhyngrwyd yn aeddfedu ac yn dychwelyd i'w wreiddiau - geiriau - yn debyg i'r ffordd mae pobl yn datblygu: rydym yn gwneud swn, rydym yn symud, rydym yn dysgu cyfathrebu.

Mae profiad yn dweud...

Mae gan Camfa y profiad mewn ysgrifennu copi ar gyfer eich holl anghenion cyfathrebiadau ysgrifenedig. Dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, rydym wedi creu:

 

Ffoto beic seicodelig gan L Verrill-Rhys, CamfaBydd ysgrifennu da a marchnata da yn helpu eich busnes i ennill sylw.

 

Dychwelyd i'r Camau Cyntaf


Geiriau yw hanfod cyfathrebu. Hebddynt, gall neb ddeall beth yr ydych yn ceisio ei ddweud. Os ydych wedi bod mewn gwlad arall lle does neb yn siarad eich iaith, fe wyddoch pa mor rwystredig ydyw i gyfathrebu. Sut mae eich cwsmeriaid yn medru dweud wrthych am eu hanghenion, os nad ydych yn cyfathrebu â nhw mewn iaith y maent yn ei deall?

Gan ddychwelyd i'r syniad o farchnata eich busnes, a yw eich copi hysbysebu, eich taflenni neu'ch gwefan yn dweud wrth eich cwsmeriaid eich bod eisiau cyfathrebu â nhw? Mae llawer gormod ohonom yn meddwl taw hysbyseb llachar, taflen liwgar a gwefan dechnolegol-gymhleth yw'r cyfan sydd eu hangen i ddweud wrth ein cwsmeriaid pa mor dda ydym. Nid ydym yn llwyddo os nad yw ein geiriau'r un mor berffaith â'n delweddau.

Ar gyfer ein gwasanaeth ysgrifennu copi, mae gan Camfa un nôd: i ysgrifennu yn dda, ym mhob cyfrwng. Mae llawer o'n cwsmeriaid yn meddwl ein bod ar y trywydd cywir.

Mae ein gwasanaethau craidd yn cynnwys:

logo Camfa Map Gwefan | Polisi Preifatrwydd | Cysylltwch â Ni | ©2007 Camfa Cyf/Ltd | +44(0)1267 232338